Gwrthwynebydd cydwybodol

Gwrthwynebydd cydwybodol
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth Edit this on Wikidata
Mathrefusal Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Datblygu Rhyfela
HWB
Gwrthwynebwyr cydwybodol
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Un sy'n gwrthwynebu hyfforddiant a gwasanaeth milwrol ar sail cydwybod yw gwrthwynebydd cydwybodol. Gall rhywun wrthwynebu gorfodaeth filwrol ar sail credoau crefyddol, athronyddol, neu wleidyddol.[1] Mewn rhai gwledydd, mae gwrthwynebwyr cydwybodol yn cael eu neilltuo i wasanaeth sifil amgen yn lle consgripsiwn neu wasanaeth milwrol.

Yn hanesyddol mae llawer o wrthwynebwyr cydwybodol wedi cael eu dienyddio, eu carcharu, neu eu cosbi drwy ddulliau eraill pan arweiniodd eu credoau at gamau yn gwrthdaro â system gyfreithiol neu lywodraeth eu cymdeithas. Mae diffiniad cyfreithiol a statws gwrthwynebiad cydwybodol wedi amrywio dros y blynyddoedd ac o genedl i genedl. Roedd credoau crefyddol yn fan cychwyn mewn llawer o genhedloedd ar gyfer rhoi statws gwrthwynebydd cydwybodol yn gyfreithiol.

Cafodd y gwrthwynebydd cydwybodol cyntaf a gofnodwyd, Maximilianus, ei draddodi i'r fyddin Rufeinig yn y flwyddyn 295, ond dywedodd wrth y Proconsul yn Numidia na allai wasanaethu yn y fyddin oherwydd ei argyhoeddiadau crefyddol. Cafodd ei ddienyddio am hyn, ac yn ddiweddarach cafodd ei ganoneiddio fel Sant Maximilian.

Ym Mhrydain ni chyflwynwyd yr hawl i wrthod gwasanaeth milwrol tan y Rhyfel Byd Cyntaf. Cofnodwyd tua 16,000 o ddynion, Crynwyr yn bennaf, fel gwrthwynebwyr cydwybodol. Rhoddwyd rolau anfilwrol i rai yn ymdrech y rhyfel ond gorfodwyd eraill i ymladd, gan wynebu carchar pe byddent yn gwrthod. Roeddent yn aml yn cael eu trin yn annheg ac roedd llawer yn eu hystyried yn ddiog, yn anniolchgar neu'n hunanol.

Erbyn yr Ail Ryfel Byd, yn dilyn y Ddeddf Gwasanaeth Cenedlaethol yn 1939, roedd bron i 60,000 o Wrthwynebwyr Cydwybodol cofrestredig. Ailddechreuodd profi trwy dribiwnlysoedd, y tro hwn gan Dribiwnlysoedd Gwrthwynebiad Cydwybodol arbennig dan gadeiryddiaeth barnwr, ac roedd yr effeithiau yn llawer llai llym.

Ym Mhrydain, roedd consgripsiwn wedi cael ei ystyried yn angenrheidiol yn ystod dau gyfnod modern: 1916–18 (Y Rhyfel Byd Cyntaf) a 1939–1960 (Yr Ail Ryfel Byd).

  1. (Saesneg) conscientious objector. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Ionawr 2014.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search